CLA442 - Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2014
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”), sy’n nodi’r gofynion hyfforddi ar gyfer llywodraethwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Mae rheoliad 2 yn diwygio’r cyfeiriad at y ddogfen hyfforddi “Cynnwys hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru ar ddeall data ysgolion” yn Rheoliadau 2013. Ceir linc i’r ddogfen ddiwygiedig ar y dudalen yma –
Gweithdrefn: Negyddol
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwyntiau canlynol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Cyfeiria rheoliad 2(2) at ddogfen a gyhoeddwyd ym mis Awst 2014 tra bod y ddogfen a gyhoeddwyd yn dangos y dyddiad cyhoeddi fel Medi 2014. Mae paragraff 4.5 o’r Memorandwm Esboniadol hefyd yn cyfeirio at ddogfen a fyddai’n cael ei chyhoeddi ym mis Medi. Ni ellir felly bod yn gwbl sicr mai dyma’r ddogfen y cyfeirir ati yn y Rheoliadau.
[Rheol Sefydlog 21.2(vi) bod angen eglurhad pellach ynglŷn ag ystyr yr offeryn.]
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwyntiau canlynol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
2. Os yw’r dyddiad a nodir ar y ddogfen yn gywir, nid oedd y ddogfen wedi’i chyhoeddi pan wnaed y Rheoliadau. Mae adran 22(4) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 yn caniatáu rhagnodi hyfforddiant drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. Fodd bynnag, dylai’r ddogfen fod wedi’i chyhoeddi pan wnaed y Rheoliadau, neu dylai hynny ddigwydd o leiaf ar yr un pryd. Y rheswm dros hynny yw y gellid tanseilio’r cyfle i graffu ar reoliadau yn unol â’r Mesur drwy gyfeirio at ddogfen nad oedd wedi’i chwblhau.
Yn yr achos presennol, nid yw hynny wedi digwydd, oherwydd (yn unol â Rheol Sefydlog 21.5) na ddylid cymryd i ystyriaeth toriad yr haf fel cyfnod ar gyfer craffu gan y Pwyllgor hwn. Yn yr un modd, nid yw hynny wedi digwydd o ran y posibilrwydd o gyflwyno cynnig i ddirymu, oherwydd (yn unol â Rheol Sefydlog 27.12) na ddylid cymryd i ystyriaeth toriad yr haf fel cyfnod ar gyfer cyflwyno cynnig. Er hynny, mae’n arfer y dylid ei osgoi.
[Rheol Sefydlog 21.3 (ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad;]
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Medi 2014
Ymateb y Llywodraeth
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod yna beth amwysedd yn y ffaith bod rheoliad 2(2) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2014 (“Rheoliadau 2014”) yn diwygio’r diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” yn rheoliad 2 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013. Mae’r diwygiad hwnnw yn cyfeirio at ddyddiad cyhoeddi’r ddogfen hyfforddi allanol yn y rheoliad hwnnw fel “Awst”. Fodd bynnag, mae’r ddogfen hyfforddi allanol ei hun yn nodi iddi gael ei chyhoeddi ym mis “Medi”. Y dyddiad cyhoeddi cywir yw “Awst” ac felly bydd Llywodraeth Cymru yn diwygio’r dyddiad cyhoeddi yn y ddogfen hyfforddi allanol i “Awst”. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r newid hwnnw gael ei wneud yn y dyddiau nesaf ac yn sicr cyn i’r darpariaethau yn y Rheoliadau ddod i rym.
Medi 2014